Cyngor Cymuned
Buan
Fel y gwyddoch i gyd, ym mis Awst 2023 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd ym Moduan. Ym mis Chwefror 2024, bu i Gyngor Cymuned Boduan rannu’r syniad o osod cofeb ger safle’r Eisteddfod Genedlaethol i gofio amdani ac aethom ati i ddechrau cynlluio!
Cynigiodd y Cynghorydd Wyn Davies garreg gilbost fel rhodd, a chynigiodd y Cynghorydd Einir Lewis ein bod yn gofyn i’r bardd, o Foduan yn wreiddiol, Iestyn Tyne ysgrifennu englyn i ni, ar gyfer ei roi ar lechan i’w gosod ar y garreg gilbost.
Y garreg gilbost
Yn ystod mis Mawrth 2024 fe wnaeth y Cynghorydd Hughie Williams, Cadeirydd y Cyngor, fynychu’r safle a thynnu lluniau o’r man ble yr hoffem leoli’r garreg ym Moduan, a marcio’r lleoliad gyda stancyn pren. Cytunwyd y bydden ni’n gofyn i’r Cynghorydd Sirol, sef Annwen Davies, a Iestyn Tyne ddadorchuddio’r garreg, ynghyd â chynghorwyr Cyngor Cymuned Buan, pan fyddai popeth yn ei le’n barod.
Bu i aelodau Cyngor Cymuned Buan ddod at ei gilydd yn ystod mis Gorffennaf gan gyfarfod yn y Gilfach ym Moduan er mwyn penderfynu ar union leoliad terfynol y garreg gilbost. Yna fe wnes i gysylltu gydag Adran Gofal Stryd, Cyngor Gwynedd a’r Adran Gynllunio er mwyn holi a oedd angen unrhyw ganiatâd ganddynt i’w gosod yn y lleoliad yma. Fe gawsom ni ganiatâd heb unrhyw drafferth.
Lleoliad y garreg gofeb
Y cam nesaf oedd cysylltu gyda Iestyn Tyne er mwyn gofyn iddo gyfansoddi englyn i ni. Ymhen hir a hwyr, cysylltodd Iestyn gyda ni i rannu ei waith, ac mi oedd pawb wedi gwirioni efo’r englyn yma:
Bu’n haf heb un ei hafal – o hel yd
yr holl wlad ym Modfal;
ma sôn fod digon yn dal
yn y cae hwn i’n cynnal.
- Iestyn Tyne
Wedi cael yr englyn, rodden ni’n barod i gysylltu gyda’r saer maen lleol, Mike Tanner. Gyrrwyd yr englyn ato, a bu i ni dderbyn cynllun o’r ysgrifen i’w rhoi ar y lechen, i’w rannu gyda’r cynghorwyr.
Yn ystod mis Ionawr 2025 bu i Gyngor Cymuned Buan benderfynnu ymgeisio am Wobrau Un Llais Cymru: mae’r rhain yn wobrau blynyddol sydd yn cael eu hadnabod ledled Cymru. Roedd rhaid mynd ati i gyflwyno adroddiad 300 gair gan roi braslun o’r cynllun a hefyd anfon lluniau i gefnogi’r cais. Cawsom wybod ganol mis Ebrill ein bod wedi cael y Tlws efo Prosiect y Cae Chwarae yn Rhydyclafdy ac wedi bod yn llwyddiannus efo’r garreg gofeb o dan y categori Menter Treftadaeth a Diwylliant, gan dderbyn y dystysgrif isod gyda chanmoliaeth, sef y drydedd wobr. Fe gynhaliwyd y Gynhadledd Wobrwyo yn Adeilad Hafod yr Hendre ar faes y Sioe yn Llanelwedd ar 30ain o Ebrill – a wir, roedd o’n ddiwrnod gwerth chweil !
Tystysgrif Gwobrau Un Llais Cymru
Roedd cwblhau’r cynllun yma yn hynod o bwysig i ni, gan fod yr Eisteddfod yn rhan mawr o’n diwylliant ni, a chan ein bod wedi cyfrannu’n sylweddol at harddu’r ardal roeddem yn teimlo y byddai’n syniad gwych gosod cofeb i gofio bod Cyngor Cymuned Buan wedi bod yn rhan o’r Brifwyl yma, sydd mor arbennig i ni’r Cymry.
Cwblhawyd y gwaith ar Chwefror 13eg eleni a chynhaliwyd seremoni swyddogol i ddadorchuddio’r garreg ar Fai 11eg, 2025. Cafwyd gair gan y Cynghorydd Hughie Williams, Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Sirol, Annwen Davies a Iestyn Tyne.
Iestyn Tyne a’r Cynghorydd Annwen Davies
Mae’r garreg wedi ei lleoli mewn cilfan ym Moduan, lleoliad perffaith, lle y gall unrhyw un barcio ei gar a chael golwg arni.
Gobeithio rhyw dro – y daw yn ôl i’r fro !
Nia Jane Owen-Midwood
Clerc Cyngor Cymuned Buan
Y Cynghorwyr hefo’r Garreg Gofeb
O’r chwith i’r dde: y Cynghorydd Rhys Jones; y Cynghorydd Dafydd Llewelyn; y Cynghorydd Phil Roberts; Iestyn Tyne; y Cynghorydd Hughie Williams; y Cynghorydd Catherine Hughes; y Cynghorydd Tesni Jones, Anne Cocker Jones, un o’r trigolion lleol; y Cynghorydd Sirol Annwen Davies; Nia Jane Owen-Midwood (Clerc) a’r Cynghorydd Gareth Roberts. Yr ysgrifen ar y lechen ydi: “Gosodwyd y garreg hon gan Gyngor Cymuned Buan i gofio am Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023” ac yna’r englyn.
Bu i’r erthygl hon gael ei chyhoeddi yn Llanw Llyn - rhifyn Mehefin 2025.