Cyngor Cymuned
Buan
"Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Mantell Gwynedd wnaeth weinyddu’r Grant Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd."
Diolch am gyfraniad o'r Gronfa Ddatblygu Gynaliadwy. Bu i AHNE (Ardal o harddwch naturiol eithradol Llŷn) a Llywodraeth Cymru ariannu’r meinciau, y byrddau ar gwlau plannu ar gyfer y Cae Chwarae.
Cliciwch ar unrhyw lun i weld delwedd mwy.
Diolch hefyd am gyfraniad ariannol gan Gyngor Cymuned Buan.
Cynhelir Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 rhwng y 5ed a’r 12fed o Awst, 2023 ar gaeau Bodfel sydd wedi eu lleoli ym Mhlwyf Buan.
Mae yna hen ddisgwyl wedi bod am yr Eisteddfod hon gan fod y dyddiad gwreiddiol i fod yn 2021 ond oherwydd y Cofid rhaid oedd gohirio tan eleni.
Er mwyn croesawu pawb i’r ardal mae’r gwaith harddu wedi hen gychwyn a braf yw gweld bwrlwm yn y cymunedau. Pawb yn gwneud yn siwr bod pobman yn edrych ar ei orau er mwyn cynnig croeso cynnes i’r holl ymwelwyr i’r rhan fechan yma o Gymru.
Dyma rai enghreifftiau o beth sydd yn harddu ardal Cyngor Cymuned Buan a diolch i bawb sydd wedi mynd ati i greu pob math o addurn bach neu fawr.
Gobeithir am Eisteddfod lwyddiannus
HYSBYSIAD O BENNU DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR
Mae bosib gweld y hysbysiad ar dudalen dogfennau'r cyngor (cliciwch yma)
Cymuned ar Benrhyn Llŷn yw Buan, yn cynnwys pentref Rhydyclafdy ac ardaloedd Boduan a Cheidio. Mae y gymuned yn eang ac amaethyddiaeth yw y prif ddiwydiant.
Mae Garn Boduan wedi ei leoli yng ngogledd ddwyrain Llŷn ac ar ei gopa gwelir olion cytiau crwn cerrig o Oes yr Haearn. Mae olion tua 170 o gytiau yno. Mae dwy ffynnon dŵr croyw yno fyddai wedi galluogi’r trigolion fyw yma drwy’r flwyddyn. Mae llawer o bobl yn cerdded i fyny i’r copa ac ar ddiwrnod braf mae yn bosibl gweld golygfeydd gwych am filltiroedd.
Mae pentref Rhydyclafdy wedi ei leoli ychydig o filltiroedd o dref Pwllheli. Mae llawer o straeon o sut daeth yr enw i fodoli, gyda un stori yn honni y bu ysbyty ar gyfer y gwahanglwyfion yn y cyffiniau.